sunshine

 

Clybiau a Gweithgareddau

Mae’r plant yn ymgymryd â nifer o weithgareddau amrywiol drwy’r flwyddyn ysgol.  Disgwylir i’r plant gymryd rhan a chynrychioli’r ysgol â balchder.   Mae nifer o’r gweithgareddau mewn cysylltiad â’r Urdd, ac felly, mae mwyafrif o’r plant Iau wedi ymaelodi â’r mudiad.

Perfformir cyngherddau tymhorol gan y disgyblion e.e. i’r Henoed yn ystod y Nadolig a Diolchgarwch.

 

Gwersyll yr Urdd Llangrannog

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cael cyfle i fynychu’r gwersyll a lletya am gyfnod er mwyn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau anturus a gweithgareddau awyr agored drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Codir tâl am y cwrs, a rhoddir cyfle i  rieni dalu’n wythnosol tuag at y costau sy’n cynnwys aros yn y gwersyll, 4 pryd o fwyd y dydd, cludiant a hyfforddiant yn y gweithgareddau – sgïo, nofio, marchogaeth a.y.y.b.  Mae’r cwrs hwn, yn ogystal â bod yn addysgiadol, wedi profi’n gyfle gwerthfawr i’r disgyblion gyfnewid profiadau, dysgu bod yn annibynnol, meithrin dinasyddiaeth a gofalu am eraill.

 

Medrusrwydd Beicio

Mae Cymdeithas Diogelwch y Ffordd Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â’r ysgol yn rhoi gwersi `Diogelwch ar y Beic’ yn ogystal â threfnu cwis ar Ddiogelwch y Ffordd.

 

Cynllun Gwenu

Mae gweithgaredd glanhau dannedd, gyda’r nod o wella iechyd deintyddol y plant, yn cymryd lle am 1.00 o’r gloch ar ôl cinio.  Mae’r rhaglen yn cael ei threfnu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol a chaiff ei goruchwylio gan y staff.  Mae gan bob plentyn frws dannedd unigol adnabyddadwy ei hunan.  Mae’n rhaid cael caniatâd rhiant cyn y medr plant gymryd rhan yn y rhaglen hon.

 

 Clwb Brecwast

Mae clwb brecwast rhad ac am ddim ar gael i’r disgyblion o 8.00 i 8.30 y.b.  Mae angen cofrestru ac mae rheolau’r ysgol yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.

Atgoffir rhieni nad ydynt yn defnyddio’r clwb bod cyfrifoldeb yr ysgol am y plant yn cychwyn  15 munud cyn amser swyddogol dechrau’r ysgol.  O ran safbwynt diogelwch, ni ddylai plant sydd heb gofrestru gyda’r clwb brecwast gyrraedd yr ysgol tan 8.45 y.b.

 

Clwb ar ôl Ysgol

Cynhelir Clwb ar ôl Ysgol i blant o oedran ysgol gynradd bob dydd yn ystod tymor ysgol o 3.40 i 5.40 y.h.  Codir tâl o £7.00 am bob sesiwn sy’n cynnwys byrbryd iachus.  Codir tâl cofrestru o £10.00 y teulu ar gyfer y plant sy’n dymuno mynychu.

 

Campau'r Ddraig

Clwb chwaraeon ar ôl ysgol yn ystod tymor yr Haf yn unig ar Ddydd Mercher o 3.30 i 4.30 y.p.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd ac athletau.  Ni chodir tâl am y clwb hwn.